SL(5)270 – Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o bum rheoliad a wneir o dan Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ('y Ddeddf'). Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifyddu carbon ac unedau carbon at ddibenion cyfrifo cyfrif allyriadau net Cymru o dan Ran 2 o'r Ddeddf.

Mae rheoliad 3 yn diffinio pa unedau carbon y caiff eu cynnwys yng nghyfrif allyriadau net Cymru.

Mae rheoliad 4 yn galluogi Gweinidogion Cymru i agor cyfrif credyd Cymru ac mae'n darparu bod rhaid i unrhyw uned garbon sydd i'w chredydu i gyfrif allyriadau net Cymru gael ei chadw yn y cyfrif hwnnw. Ar ôl i uned garbon gael ei lleoli yng nghyfrif credyd Cymru, ni ellir ond ei thynnu allan eto er mwyn ei dileu, oni bai bod gweinyddwr y gofrestrfa wedi ei fodloni bod amodau penodol wedi eu diwallu.

Mae rheoliad 5 yn amlinellu’r ffordd y caniateir credydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru. Rhaid eu cadw yng nghyfrif credyd Cymru a rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan eu bod wedi eu credydu yn unol â rheoliad 5.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr sy’n cynnwys manylion yr unedau carbon a gredydir i gyfrif allyriadau net Cymru, ac a ddidynnir ohono, ynghyd â manylion yr unedau carbon sydd wedi eu dileu.

Y weithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn hwn. Os bydd Brexit 'dim bargen', mae perygl na fydd y DU yn cadw mynediad at y system cofrestrfeydd a sefydlwyd o dan ddeddfwriaeth yr UE, sef cynnal cyfrif credyd Cymru. Mae paragraff 2 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn:

“The Carbon Accounting (Wales) Regulations 2018 utilise the UK Registry to host the Welsh credit account. The UK Registry is governed by Commission Regulation (EU) 389/2013 establishing a union registry pursuant to Directive 2003/87/EC establishing a system for greenhouse gas emissions trading within the European Union.  In a Technical Note of 12 October 2018, the UK Government confirmed that in the event of ‘no deal’ there is a risk that the UK will not maintain access to the registries system, established under this EU legislation. The UK Government is considering contingency measures for this scenario and will issue further advice later in 2018.  The Welsh Ministers may need to amend the Carbon Accounting (Wales) Regulations 2018 to make alternative provision for registering and keeping track of carbon units held by the Welsh Ministers in those circumstances.”

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn, fel y nodir uchod.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

14 Tachwedd 2018